Os wnaethoch chi danysgrifio drwy’r wefan hon:
- Ewch i’ch proffil drwy ddewis eich enw neu lun proffil ar dde uchaf y dudalen (mewngofnodwch os oes angen).
- Ewch i’r dudalen Danysgrifiadau yn y dewisiadau.
- Gwasgwch y botwm i beidio adnewyddu eich tanysgrifiad. Bydd y tanysgrifiad yn parhau yn weithredol hyd at ddiwedd y cyfnod cyfredol, ond ni fydd yn adnewyddu ar ôl hynny.
- Neu, gwasgwch y botwm i ganslo yn syth a bydd eich tanysgrifiad yn dod i ben ar unwaith. Os ydych chi’n canslo o fewn 14 diwrnod ar ôl cychwyn tanysgrifiad newydd, a chyn i chi dderbyn unrhyw rifynnau, cewch ad-daliad.
- Nid oes unrhyw ad-daliad am ganslo tanysgrifiad ar ôl 14 diwrnod, nac ar ôl iddo adnewyddu.
Os wnaethoch chi danysgrifio i Lingo Newydd ar ap iOS drwy’r App Store:
- Dilynwch gyfarwyddiadau Apple i ganslo’ch tanysgrifiad.
Os wnaethoch chi danysgrifio drwy ddull arall, megis siec neu ddebyd uniongyrchol:
- Cysylltwch â ni i newid neu ganslo eich tanysgrifiad.