Er mwyn defnyddio eich tanysgrifiad Golwg neu Lingo Newydd yn ein ap apGolwg, bydd angen cysylltu eich cyfrif ar y wefan gyda’r ap. Dim ond unwaith bydd angen gwneud hyn, a bydd eich rhifynnau yn ymddangos yn yr ap yn awtomatig ar ôl hynny.

Lawrlwythwch yr ap ar gyfer dyfeisiau Apple neu Android.

Os ydych chi newydd danysgrifio i Lingo Newydd gyda’r opsiwn digidol, byddwch yn derbyn ebost gyda’r manylion mewngofnodi cywir. Cofiwch edrych yn eich ffolder spam.

Os ydych chi’n cael trafferth mewngofnodi, neu os nad ydych chi wedi defnyddio’r ap o’r blaen, neu am ailgysylltu’r ap gyda’ch cyfrif, ewch ati i greu manylion mewngofnodi newydd. Byddwch yn derbyn cyfrinair untro arbennig i gysylltu’r ap.

Os ydych chi’n creu cyfrinair newydd i’r ap, cofiwch y bydd angen i chi ailosod y cyfrinair ar bob dyfais sydd gennych.

Nodwch fod y cyfrinair ar gyfer apGolwg yn wahanol i’r un rydych chi’n defnyddio ar y wefan. Peidiwch rhoi cyfrinair eich cyfrif gwefan yn yr ap, na’ch cyfrinair Apple na Google.