Rydym yn derbyn hysbysebion HTML mewn pecyn ZIP sy’n dilyn canllawiau IAB.
Mae Google yn cynnig meddalwedd am ddim i greu hysbysebion yn y ffurf gywir, ac mae rhagor o wybodaeth am y fformat a ffeiliau engreifftiol ar gael hefyd.
O fewn y ZIP, rhaid cynnwys ffeil o’r enw index.html
sy’n cynnwys yr elfennau canlynol.
1. Tag meta yn nodi’r maint:
<meta name="ad.size" content="width=[x],height=[y]">
2. Darn o sgript yn nodi i le dylai’ch hysbyseb arwain:
<script type="text/javascript">
var clickTag = "https://eich.gwefan.cymru";
</script>
3. Dolen o amgylch prif gynnwys yr hysbyseb sy’n defnyddio gwerth y clickTag:
<a href="javascript:window.open(window.clickTag)">
<div id="container">
<img src="image.png" />
</div>
</a>
4. Gwnewch yn siwr fod y dyluniad yn ymatebol (responsive) er mwyn gallu addasu i bob maint sgrîn. Edrychwch ar gymorth eich meddalwedd i ganfod sut i wneud hyn. Ni fyddwn yn gallu derbyn hysbysebion sydd heb ddyluniad ymatebol.